About this blog
-
A home for thoughts on human rights from Wales. With updates from the Wales office, input from Welsh groups and a forum of Welsh supporters. Yn dwyieithog, wrth gwrs.
Bloggers:
Search
Views voiced on these blogs are not necessarily Amnesty International's own
Recent Posts
People are writing about
Dim LCO yn Xinjiang
Tybed a gall y rhau sy’n cecran am LCO'r Iaeth Gymraeg, gyda’u clochdar ddiddiwedd dros pwy dylai deddfu, cymryd cam bach yn ol, ac edrych efallau tu hwnt i Gymru fach. Mae’r “Welsh knot” eisioes yn hanes hynafol i ni Cymru Gymraeg ond nid fellu bu bywyd yn Xinjiang heddiw. Pan ymwelodd Rebiya Kadeer a’r Cynulliad yn 2007 esboniodd am y cyfyngiad llym yn erbyn crefydd, diwylliant ag iaeth yr Uighur a sonioedd yn enwedig am y tristwch a thor calon o gorfodi plant i ardaloedd o China i dderbyn eu addysg mewn iaeth a dywylliant estron.Mae athrawon a phlant yn wynebu dirwy am siarad mamiaith yn yr ysgol a mae ymgyrchwyr yn cael eu carcharu am rhannu wybodaeth am datganoli. Yr wythnos yma gwelwyd marwolaeth 140 person, a dros mil o ymgyrchwyr yn cael eu arestio. Braint yw ddadl yr LCO, yn anffodus nid iw fath braint ar gael i bawb yn ein byd.







Add comment
12 Comments
Tra bod anghyfiawnder i'w weld ar draws y byd a thra bo diwylliannau o bob math yn diflannu, maen naturiol dechrau wrth ein traed. O ganlyniad, prif ffocws ein holl bolisïau ac ymgyrchu yw'r angen i bwysleisio'r amodau hynny a fydd yn sicrhau dyfodol i'r Gymraeg a chymunedau Cymru. Trwy wneud hynny, gallwn gyfrannu at yr ymgyrch ehangach dros gyfiawnder cymdeithasol, gan fod ymgyrchu o blaid yr iaith hefyd yn golygu ymgyrchu dros yr hawl i reoli ein dyfodol. Ar yr un pryd, pwysleisiwn barodrwydd parhaol Cymdeithas yr Iaith i gyd-weithio gyda mudiadau radical eraill sydd yn rhannu ein gweledigaeth ac yn awyddus i weld newid.
Trwy'r nawdegau ac i mewn i'r ganrif newydd daeth mwy a mwy yng Nghymru i goleddu'r gred dwyllodrus fod dyfodol y Gymraeg bellach yn ddiogel. Yn raddol datblygodd consensws a oedd o'r farn fod protest, er gwaethaf ei gyfraniad eithriadol o effeithiol i fywyd Cymru, bellach yn perthyn i'r gorffennol ac y gellir yn awr hyrwyddo'r Gymraeg oddi fewn i'r sustem. O bosib y symudiad peryclaf yn y maes yma yw'r ymgais i dynnu'r Gymraeg allan o wleidyddiaeth – i niwtraleiddio'r Gymraeg. Defnyddir y ddadl yma yn aml gan y sefydliad er mwyn cyfiawnhau gwerthoedd afiach. Er engrhaifft yn y saithdegau – ‘cadwch wleidyddiaeth allan o chwaraeon' (fel y gallwn fynd i Dde-Affrica i chwarae rygbi ac i gydnabod y drefn Apartheid). Trwy barhau gyda'n safiad gwrthsefydliadol a gwrth-gyfalafol nod Cymdeithas yr Iaith yw ymladd yn erbyn y pydredd mewnol, gan greu hinsawdd gwleidyddol mwy beirniadol a gwyliadwrus. Mae'r iaith yn colli tir yn gyflym a rhaid i ni weithredu yn fuan. Ni wnaeth ymgyrchoedd y degawdau diwethaf ond sicrhau na fyddai'r Gymraeg yn iaith farw erbyn diwedd yr ugeinfed ganrif. Yn awr, rhaid i ni ddeffro i frwydr newydd!
Un o nodweddion cenedlaetholdeb Prydeinig erioed oedd dyrchafu achosion tramor tra'n difrïo ymgyrchoedd am gyfiawnder o flaen eu trwynau. Tra oedd arweinwyr Llafur yng Nghymru yn hanner addoli Jawaharlal Nehru yn yr 1950s roedde nhw'n mynd rownd y lle'n galw Gwynfor Evans yn ffasgydd! A dyma ni heddiw yn cael aelod blaenllaw o Amnesty yn difrïo ymgyrchwyr cyfiawnder yng Nghymru ond yn rhoi sylwi i achos tramor. Y mae'r achos tramor yn deilwng iawn o sylw ond pam y safonau dwbl Amnesty?
Ond yr un egwyddor/ethic sydd tu ôl i LCO a sy tu ôl i'r erlid treisgar sydd yn Xinjiang, sef un cenedl neu ddiwylliant yn mynnu gormesu dros y llall. Does dim hawl foesol gan senedd Llundain i benderfynnu tynged hawliai iaith yng Nghymru yn yr un modd a nad oed hawl foesol gan neb ormesu'r Uighur. Mae Llundain yn defnyddio cyfansoddiad a grym gwladwriaeth yn hytrach na grym y gyllell a'r fwled; ond yr un camwedd foesol sydd tu ôl y ddau. Dydy pechod waeth ddim yn dad-wneud y pechod gwreiddiol. Pechod ydy pechod.
A yw'r sylwadau uchod yn rhai swyddogol ar ran Amnest yng Nghymru neu gan unigolyn? os unigolyn, a fyddai modd gwybod pwy sy'n gyfrifol?
Mae'n dweud "Views voiced on these blogs are not necessarily Amnesty International's own" ond mae rhywun â'r enw "Amnest Cymru" ar maes-e wedi dweud "Bore ma blogio ni …" sy'n awgrymu ei fod yn cael sêl bendith y mudiad.
Alla i ddim coelio'r fath agwedd. Diolch Rhys am geisio esbonio.
Mae'n amlwg nad ydy'r person yn gwybod
am yr holl enghrefftiau di-rif lle mae ymgyrchwyr iaith wedi bod yn
cefnogi frwydrau bobl eraill (ac dwi'n ysgrifennu fel rhywun sy'n
aelod o'r Gymdeithas, ond sy'n cydnabod y cyfraniad werthfawr i'r
ymgyrch Nicaragua yng Nghymru dros y ddau degawd diwethaf gan
aelodau'r Gymdeithas). Am enghraifft arall, gweler y manylion ar
gyfer cynhadledd Cymru/Bolifia ar Awst 14 ym Machynlleth, rhan o'r
Wyl El Sueno Existe, i gofio Victor Jara. Bydd ddwy llysgennad o
Folifia yn siarad (y ddwy o Paris a Llundain), a sawl ymgyrchydd
iaith hen ac ifanc, yn cynnwys Cadeirydd y Gymdeithas, Menna
Machreth, yn y prynhawn. Gweler: http://www.elsuenoexiste.com/f09.htm
Ben. Ysgrifennydd Ymgyrch Gefnogi Nicaragua Cymru
Mae Rhys Llwyd yn iawn. Mae'r sefyllfa yng Nghymru'n wahanol ond yr un egwyddor sydd wedi bod ar waith yma ac sydd gyda Dwyrain Twrcmenistan.
Dwi'n falch fod Amnest yn dechrau trafod hawliau ieithyddol ac felly ddim am ddechre'r nonses 'pwy sgwennodd hwn' ai polisi swyddogol yw e, sori Hedd.
Hoffwn feddwl felly y bydd Amnest nawr yn cymryd hawliau ieithyddol o ddifri. Gallent ymgyrchu dros i Ffrainc arwyddo Siarter Ieithoedd Lleiafrifol Ewrop fyddai'n rhoi rheidrwydd arnynt i ddarparu addysg mewn Llydaweg. Os ydi Amnest yn edrych am raddfeydd o orthrwm yna gallent wneud dim gwell na dechrau ymgyrchu yn erbyn Llywodraeth Ffrainc i gydnabod hawliau ieithyddol siaradwyr y Lydaweg, Basgeg a Chatalaneg o fewn ei gwladwriaeth.
Yn sicr, mae agwedd Jacobinaidd, imerpialaidd (wrth gwrs wedi ei gysgodi dan ieithwedd parchus a blaengar 'amnestaidd' fel 'cydraddoldeb', 'hawliau', 'gwrthwynebu gwahaniaethau ethnig') yn cael eu defnyddio gan y Chineaid fel y cawsant eu defnyddio gan Ffrainc a Llywodraeth Lafur Newydd Prydain.
O ran graddfeydd o orthrwm. Hyderaf flogiwr Amnest, na fydd Amnest yntrafferthu ymgyrchu dros hawliau unigolion ym Mhrydain o hyn ymlaen ;-)
Pob hwyl gyda'r blog a diolch am godi achos iaith y Twrmen i ni … eironig fod cefndryd y Twrcmen, y Twrciaid, yn arddel polisiau tebyg i'r Chineaid tuag at y Cwrdiaid.
Yr un frwydr yw e yn y pen-draw. Brwydr yn ebyn gwladwraethau a moesoledeb deallusol y gwladwriethau hynny sy'n credu fod rhai pobl yn siarad is-ieithoedd, sydd, fel is-bobl, yn haeddu marw.
Dalia mlaen i flogio.
Mae llawer mwy yn y blogiad uchod na cheisio codi ymwybyddiaeth yn unig am y sefyllfa yn Xinjiang. Mae'r cyfraniad yn un sbeitlyd, sy'n ceisio awgrymu fod ymgyrchwyr dros hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg yn fewnblyg, a chul ac yn anwybodus o'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill o'r byd. Ni allai hyn fod yn bellach o'r gwirionedd wrth gwrs. Mae'n hollol amlwg mai bwriad y cyfraniad yw ymosod ar ymgyrchwyr dros yr iaith Gymraeg, yn hytrach na chodi ymwybyddiaeth o unrhyw achos arall.
A fyddai modd i chi gyhoeddi yma os gwelwch yn dda barn pwy yn union yw'r uchod? Ai barn aelod o staff Amnest Cymru?
Dw i wedi cefnogi gwaith Amnesty ers degawdau – ers yn bell cyn i mi ddysgu'r Gymraeg.
Mae gweld agwedd hyll, negyddol fel hyn yn cael sêl bendith Amnesty wedi fy synnu a fy siomi yn fawr iawn. Os ydy unigolion yn cael defnyddio Amnesty i hyrwyddo agendas personol nawddoglyd ac annifyr, bydda i'n colli ffydd yn y mudiad i raddfa sylweddol iawn.
***
At Amnesty's staff:
I have supported the work of Amnesty for decades – a long time before I learnt Welsh.
Seeing this kind of ugly, negative attitude being tolerated and given a platform by Amnesty has surprised me and disappointed me greatly. If individuals are allowed to use Amnesty to promote their own condescending and unpleasant personal agendas, I will lose faith in the organisation to a very great extent.
Rydyn ni'n rhan o grwp o aelodau a chefnogwyr Amnest sy'n cwrdd yn rheolaidd yng Nghapel y Nant, CwmTawe, i ysgrifennu llythyrau i helpu pobl sy'n diodde anghyfiawnder ledled y byd. Mae'r grwp yn cael ei gynnal yn llwyr yn Gymraeg.
Ydym, rydym yn poeni bod cymaint o gyfyngiadau ar ein defnydd o Gymraeg yn ein bywydau mewn cymaint o feysydd, ac ry'n ni am i hynny newid. Ond, yn wahanol i awgrym y blog cas gwreiddiol, dyw hyn ddim yn lleihau un iot ein bwriad i helpu pobl sydd mewn llawer gwaeth sefyllfa personol na ni.
Digon rhwydd i bobl glochdar sut maen nhw'n cefnogi pobl sy'n diodde anghyfiawnder iaith a diwylliant mewn gwledydd tramor – e.e. yr Uighur yn Tsieina. Ond gofynnwch iddyn nhw beth maen nhw'n gwneud am anghyfiawnder iaith yn eu gwlad eu hun ac fe gewch weld pa mor ddiffuant ydyn nhw.
Hywel a Charlotte Davies
Dwi'n credu fod arwyddair Cymdeithas yr Iaith yn dweud y cwbl am y mudiad a'u cefnogwyr, ac yn dangos mae ffwlbri llwyr yw'r honiadau/awgrymiadau sy'n cael eu gwneud yn y blog yma:
"Cymdeithas o bobol sy'n gweithredu'n ddi-draisdros y Gymraeg a chymunedau Cymru fel rhan o'r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid."